Iaith a siaredir heddiw yn bennaf yng Nghymru yw'r Gymraeg. Mae cymuned fechan o ddisgynyddion i Gymry Cymraeg wedi goroesi ym Mhatagonia, yr Ariannin. Siaradir Cymraeg ym Mhatagonia er 1865 pan aeth grŵp o ymsefydlwyr o Gymry yno i fyw, gan chwilio am fywyd gwell.
Y Gymraeg oedd prif iaith Cymru o'r cyfnod y datblygodd o'r Frythoneg tan ddechrau'r 20fed ganrif. Erbyn heddiw, tua 20% o boblogaeth Cymru sy'n siarad Cymraeg. Yng Nghymru, er nad yw'r Gymraeg yn iaith swyddogol hollol gydradd â'r Saesneg, mae rhai hawliau cyfreithiol gan ei siaradwyr, megis yr hawl i gyfathrebu â'r llywodraeth trwy gyfrwng y Gymraeg ac i ddefnyddio Cymraeg mewn llys barn ac yn y Cynulliad Cenedlaethol. Ymddengys arwyddion ffyrdd yn ddwyieithog. Enillwyd yr hawliau cyfreithiol hyn yn sgil llawer o bwyso gan Gymdeithas yr Iaith ac eraill a esgorodd ar gyfres o ddeddfau. Y diweddaraf o'r rhain yw Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Mae Cymraeg hefyd yn iaith lai ei defnydd a gydnabyddir gan yr Undeb Ewropeaidd.
Fel ag yn achos nifer o ieithoedd llai eu defnydd yn Ewrop ymdrechir heddiw i sicrhau lle i'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd diwylliannol a bywyd bob dydd. Mae'n iaith ysgrifenedig ers tua OC 600 er nad oes llawysgrifau wedi goroesi o'r cyfnod hwnnw. Mae gan y Gymraeg draddodiad llenyddol di-dor o ddechreuadau'r iaith hyd heddiw. Cyfrifir barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a'r Mabinogi yn rhan o drysor llenyddiaeth Ewrop. Darlledir yn Gymraeg ar y teledu ar sianel S4C ac ar y radio, yn bennaf ar Radio Cymru. Darperir addysg drwy gyfrwng y Gymraeg mewn llawer ond nid pob ardal yng Nghymru. Mae Cymraeg yn bwnc gorfodol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyhoeddus Cymru rhwng 5 ac 16 mlwydd oed.
More on [ Cymraeg ]
Welsh :: World Literature
Welsh :: W
Wales :: United Kingdom
Welsh :: Celtic
Welsh :: Celtic